3,015 messages sent to MPs

Pro-Europeans focus on NHS in fight against Brexit • Ffocws Pro-Ewropeaidd ar y GIG yn y frwydr yn erbyn Brexit

Other reads

Peter Gilbey

Grassroots activists from across Wales are committed to campaigning against a Brexit that damages our National Health Service.

In the birthplace nation of our beloved NHS, Wales For Europe volunteers are highlighting that the UK Government’s plan for a hard Brexit will leave the Welsh NHS worse off. And on Saturday 9 December, campaigners throughout Wales will be taking part in a ‘Protect our NHS’ Day of Action.

Wales For Europe points to a growing shortage of nursing and medical staff. This will be worsened, if Brexit leads to the widely predicted fall in the numbers coming from the EU to work in Britain. There has already been a 96% fall in the number of EU nurses arriving in the UK since the EU referendum.

While the number of EU citizens within the whole Welsh NHS workforce is relatively small at 1.5% overall, nearly 6% (or 435 people) are doctors or dentists.

In addition, the UK Government’s choice to leave the Single Market will damage the economy, leaving less money to spend on the NHS. The repercussions on public finances will be felt by NHS Wales. We also now know that the £350 million extra a week Boris Johnson and other Leave campaigners promised to spend on the NHS will not be delivered.

One senior doctor who is worried about the threat to the NHS from Brexit is Dr Wulf Stratling, originally from Germany. Dr Stratling, Consultant Anaesthesiologist in Cardiff, said he was concerned that an NHS already under pressure was going to suffer further from a hard, destructive Brexit. “Whatever people voted in the EU referendum, I am sure the last thing they expected, or wanted, was for vital public service workers from Europe to leave the UK. We must keep telling politicians that we are not prepared to allow the NHS, or its staff, to be undermined.” 

Helen Birtwhistle, Director of Wales For Europe added: “The NHS has a very special place in the hearts and lives of the people of Wales. But, nearly seventy years after its inception by Tredegar politician Aneurin Bevan, our NHS is under threat.

“The NHS is Wales’ largest single employer and communities and families across the nation not only depend on it for care and treatment but also for their livelihoods. Staff from Europe, who work tirelessly to deliver vital health and social care services across Wales, are leaving.

“At Wales For Europe we believe there is an alternative: to stay in the Single Market and protect the economy; to secure EU citizens’ rights immediately and stop vital public sector workers from leaving Wales.

“We urge all pro-NHS people in Wales to campaign for the protection of our health services.”

/ends

Notes to editors:

Wales For Europe is an independent grassroots organisation made up of volunteers in local groups across the nation. We bring Welsh voices together to fight for the best deal for Wales and believe that Wales is stronger with Europe.

For all media inquiries and for interviews, please contact:

Helen Birtwhistle, Director, Wales For Europe

director@walesforeurope.org


Mae actifyddion ar lawr gwlad ar hyd a lled Cymru wedi ymrwymo i ymgyrchu yn erbyn Brexit fydd yn niweidio ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Yn y wlad lle crëwyd ein GIG gwerthfawr, mae gwirfoddolwyr Cymru Dros Ewrop yn pwysleisio y bydd cynllun Llywodraeth y DU am Brexit caled yn rhoi GIG Cymru mewn sefyllfa waeth. Ac ar ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr, bydd ymgyrchwyr ar hyd a lled Cymru’n cymryd rhan mewn Diwrnod Gweithredu i ‘Ddiogelu ein GIG’.

Mae Cymru Dros Ewrop yn tynnu sylw at brinder cynyddol o staff nyrsio a meddygol.  Bydd hyn yn gwaethygu os bydd Brexit yn arwain at y gostyngiad sy’n cael ei ragfynegi’n helaeth yn y niferoedd sy’n dod o’r UE i weithio ym Mhrydain. Cafwyd gostyngiad o 96% yn barod yn nifer y nyrsys o’r UE sydd yn dod i’r DU ers refferendwm yr UE.

Er bod nifer dinasyddion yr UE yng ngweithlu GIG Cymru yn gymharol fach, 1.5% i gyd, mae bron 6% (neu 435 o bobl) yn feddygon neu’n ddeintyddion.

Yn ogystal, bydd dewis Llywodraeth y DU i adael y Farchnad Sengl yn niweidio’r economi, gan adael llai o arian i’w wario ar y GIG. Bydd y sgil-effeithiau i gyllid cyhoeddus yn cael eu teimlo gan GIG Cymru.  Gwyddom hefyd na fydd y £350 miliwn ychwanegol yr wythnos yr addawodd Boris Johnson ac ymgyrchwyr Gadael eraill ei wario ar y GIG yn cael ei ddarparu bellach.

Un meddyg uwch sydd yn poeni am y bygythiad i’r GIG yn sgil Brexit yw Dr Wulf Stratling, yn wreiddiol o’r Almaen. Dywedodd Dr Stratling, Anaestheolegydd Ymgynghorol yng Nghaerdydd, ei fod yn poeni y byddai’r GIG, sydd eisoes o dan bwysau, yn mynd i ddioddef mwy yn sgil Brexit caled, dinistriol. “Pa bynnag ffordd y pleidleisiodd pobl yn refferendwm yr UE, rwy’n siŵr mai’r peth olaf yr oeddent yn ei ddisgwyl, neu ei eisiau, oedd i weithwyr hanfodol y gwasanaethau cyhoeddus o Ewrop adael y DU. Mae’n rhaid i ni barhau i ddweud wrth wleidyddion nad ydym yn barod i adael i’r GIG, na’i staff, gael eu tanseilio.”

Ychwanegodd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr Cymru Dros Ewrop: “Mae lle arbennig i’r GIG yng nghalonnau a bywydau pobl Cymru.  Ond, bron saith deg o flynyddoedd ar ôl ei sefydlu gan y gwleidydd o Dredegar, Aneurin Bevan, mae ein GIG o dan fygythiad.

“Y GIG yw cyflogwr unigol mwyaf Cymru ac mae cymunedau a theuluoedd ar draws y wlad yn dibynnu arno am ofal a thriniaeth a hefyd am eu bywoliaeth. Mae staff o Ewrop, sydd yn gweithio’n ddiflino i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar hyd a lled Cymru, yn gadael.

“Yng Nghymru Dros Ewrop, rydym yn credu bod dewis amgen: aros yn y Farchnad Sengl a diogelu’r economi; sicrhau hawliau dinasyddion yr UE ar unwaith ac atal gweithwyr hanfodol y sector cyhoeddus rhag gadael Cymru.

“Rydym yn annog pawb sydd o blaid y GIG yng Nghymru i ymgyrchu dros ddiogelu ein gwasanaethau iechyd.”

/diwedd

 

Nodiadau i olygyddion:

Mae Cymru Dros Ewrop yn sefydliad llawr gwlad, annibynnol, yn cynnwys gwirfoddolwyr mewn grwpiau lleol ar draws y wlad. Rydym yn dod â lleisiau Cymru ynghyd i frwydro dros y fargen orau i Gymru ac rydym yn credu bod Cymru yn gryfach yn Ewrop.

Ar gyfer holl ymholiadau’r cyfryngau a chyfweliadau, cysylltwch â:

Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr, Cymru Dros Ewrop

director@walesforeurope.org