Mae cynghorwyr, aelodau Cynulliad, aelodau seneddol ac aelodau Senedd Ewrop o ar draws y spectrwm gwleidyddol wedi dod ynghyd i alw am #PleidlaisyBobl ar y cytundeb Brexit terfynol.

Addawyd amrywiaeth o bethau gan Vote Leave yn ystod ymgyrch refferedwm yr UE yn 2016.

Cawson addewid na fyddwn i’n dlotach, cawsom addewid y byddai ein cyllid yn parhau, cawsom addewid o £350 miliwn yr wythnos i’r GIG.

Mae’n glir na chaiff yr addewidion hyn eu cadw.

“Ym mis Mehefin 2016, pleidleisiodd Cymru – a’r DU – dros Brexit. Fel ymgyrchwyr dros Aros, rydym yn edifar hynny, ond rydym ni hefyd yn ei dderbyn.

Bellach, mae’r drafodaeth yn canolbwyntio ar yr hyn rydym yn ei feddwl am y cytundeb Brexit y mae’r Prif Weinidog yn ei sicrhau. Ai dyma’r cytundeb gorau i bobl Cymru a gweddill y DU? A fydd yn sicrhau dyfodol da i’n pobl ifanc, gan eu galluogi i ffynnu? A fydd yn helpu i amddiffyn a chynyddu nifer y swyddi â chyflog da, â sgiliau medrus y mae eu hangen ar Gymru?

Un peth rydym yn gwybod erbyn hyn yw na fydd llawer o’r addewidion a wnaed yn ystod ymgyrch y refferedwm yn cael eu cadw. Ni fydd £350 miliwn yr wythnos ar gyfer y GIGNi fydd unryw gytundebau masnachu newydd yn barod i’w llofnodi pan fyddwn ni’n gadael.

Ac rydym ni’n gwybod bod nifer fawr o faterion na chafodd eu trafod o gwbl, neu bron byth, yn ystod y refferendwm sydd bellach yn hynod bwysig. Mae ffin Iwerddon yn un ohonynt, a dyma un sy’n bwysig i Gymru oherwydd gallai ein porthladdoedd troi’n ffin economaidd galed gydag Iwerddon yn sydyn iawn. A cheir nifer o faterion eraill.

Am yr holl resymau hyn, rydym wedi dod ynghyd, ar sail drawsbleidiol, i leisio barn dros bobl Cymru ac i fynnu, ar eu rhan ac i bawb arall yn y DU, ein bod yn cael Pleidlais y Bobl ar gytundeb Brexit terfynol.

Bydd y cytundeb Brexit terfynol o bwysigrwydd enfawr a bydd yn rhy fawr i’w anwybyddu. Bydd yn rhy fawr hefyd i’w adael i aelodau seneddol y DU yn unig. Rhaid i ni nawr gael Pleidlais y Bobl.

Mae amser yn brin. Anogwn i bawb yng Nghymru er ewyllus da, o’r holl bleidiau neu o ddim plaid o gwbl, i sefyll ochr yn ochr â ni wrth i ni alw ar ein haelodau seneddol i ymrwymo i gefnogi Pleidlais y Bobl ar y cytundeb Brexit terfynol.

Alun Davies AC (Blaenau Gwent; Ysgrifennydd Llywodraeth Leol)

Ann Jones AC (Dyffryn Clwyd; Y Dirprwy Lywydd)

David Rees AC (Aberafan; Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol)

Joyce Watson AC (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Kirsty Williams AC (Brycheiniog a Maesyfed; Ysgrifennydd Addysg)

Leanne Wood AC (Rhondda; Arweinydd, Plaid Cymru)

Lee Waters AC (Llanelli)

Lynne Neagle AC (Torfaen; Cadeirydd, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg)

Mike Hedges AC (Dwyrain Abertawe; Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig)

 

Derek Vaughan ASE (Cymru)

Jill Evans ASE (Cymru)

Ann Clwyd AS (Cwm Cynon)

Anna McMorrin AS (Gogledd Caerdydd)

Chris Bryant AS (Rhondda)

Geraint Davies AS (Gorllewin Abertawe)

Jo Stevens AS (Caerdydd Canolog)

Jonathan Edwards AS (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Liz Saville-Roberts AS (Dwyfor Meirionydd)

Owen Smith AS (Pontypridd)

Paul Flynn AS (Gorllewin Casnewydd)

Stephen Doughty AS (De Caerdydd a Phenarth)

Susan Elan-Jones AS (De Clwyd)

Tonia Antoniazzi AS (Gŵyr)

 

Y Cyng. Anthony Hunt (Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen)

Y Cyng. Andrew Morgan (Arweinydd, Cyngor Rhondda Cynon Taf)

Y Cyng. David Poole (Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili)

Y Cyng. Debbie Wilcox (Arweinydd, Cyngor Dinas Casnewydd ac Arweinydd CLlLC)

Y Cyng. Ellen ap Gwynn (Arweinydd, Cyngor Ceredigion)

Y Cyng. Huw Thomas (Arweinydd, Cyngor Caerdydd)

Y Cyng. Rob Jones (Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot)

Y Cyng. Rob Stewart (Arweinydd, Cyngor Abertawe)

Pin It on Pinterest

Shares
Share This