Marchnad Sengl

Yr achubiaeth i economi Cymru

For English, click here

BETH YW’R FARCHNAD SENGL?

Mae’r Farchnad Sengl yn ardal lle gall pobl, cyfalaf, nwyddau a gwasanaethau symud yn rhydd ac yn hawdd, gan alluogi pobl Cymru i fyw a gweithio mewn dros 30 o wledydd eraill ledled Ewrop. Mae hyn yn caniatáu i fusnesau Cymru ffynnu, trwy allu masnachu yr un mor hawdd gyda busnesau yn Lloegr ag y gallant gyda busnesau yn yr Eidal.

BETH Y MAE HYN YN EI OLYGU I GYMRU?

Y tu allan i’r Farchnad Sengl, byddai tollau a rhwystrau eraill i fasnach yn cael eu gosod (gan olygu llai o fuddsoddiad o’r tu allan). Mae Cymru yn masnachu’n anuniongyrchol o fewn y Farchnad Sengl hefyd, a hynny trwy weddill y Deyrnas Unedig, lle mae cydrannau Cymreig yn cael eu rhoi mewn nwyddau sy’n cael eu hallforio o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i weddill Ewrop. Felly, mae’n hollbwysig bod Cymru nid yn unig yn cynnal ei chysylltiadau economaidd â’r Farchnad Sengl, ond ei bod yn eu cynnal â gweddill Gwledydd Prydain hefyd.

Gellir dadlau y gallai Cymru ddioddef yn waeth yn economaidd na gweddill y DU, oherwydd bod incwm cartrefi, ar gyfartaledd, yn is, a bod dibyniaeth lawer uwch ar y sector gweithgynhyrchu. Felly, petai amodau economaidd yn gwaethygu o ganlyniad i adael y Farchnad Sengl, byddai hynny’n fwy niweidiol byth i Gymru.

ONI FYDDEN YN ELWA YN ARIANNOL?

Yn groes i’r addewid anghyfrifol (sef y celwydd) y gellid rhoi £350 miliwn yr wythnos i’r Gwasanaeth Iechyd, mewn gwirionedd, byddai llai o arian ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Yn anorfod, bydd gadael y Farchnad Sengl yn golygu y byddai rhwystrau o ryw fath neu faint yn cael eu sefydlu (ni fydd modd creu cytundeb masnach rydd a fyddai’n cynnig yr un manteision ag aelodaeth o’r Farchnad Sengl).

Felly, mae’n rhesymol cymryd yn ganiataol ei bod yn anochel y bydd y trefniant hwn rhwng y DU a’r UE, a fydd yn waeth na’r sefyllfa bresennol, yn golygu lefelau is o gynnyrch economaidd (sef twf economaidd gwan, neu ddirwasgiad). Byddai hyn yn golygu y gellid codi llai o arian mewn trethi, a fydd wedyn yn arwain at lai o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol  tebyg i’r Gwasanaeth Iechyd.

Felly, ni fyddwn yn elwa ar Brexit. Byddwn ar ein colled, gyda bil y bydd yn rhaid i chi ei dalu.

 

Y FARCHNAD SENGL A THRAFNIDIAETH?

Yn ystod y degawdau diwethaf, mae aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi arwain at  fuddsoddiad sylweddol yn seilwaith trafnidiaeth Cymru. Mae hyn wedi golygu ffyrdd newydd, safonau cyffredin ar gyfer cerbydau ledled y cyfandir, a chryfhau hawliau teithwyr.

Oddi mewn i’r Farchnad Sengl, gall pobl a nwyddau symud trwy borthladdoedd yn rhwydd, ond os byddwn yn gadael, yn unol â chynllun Llywodraeth y DU, byddai archwiliadau wrth y ffiniau yn feichus ac yn ddrud. Yn ogystal ag achosi problemau i deithwyr, byddai hyn yn cael effaith negyddol ar borthladdoedd, meysydd awyr a busnesau o ran masnach.

Os na fydd strategaeth Llywodraeth y DU yn effeithio ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon (fel y mae’n ei hawlio, byth a beunydd), yna bydd hwn yn llwybr llawer mwy deniadol rhwng y DU a’r UE. Byddai Cymru ar ei cholled oherwydd byddai ein porthladdoedd yn colli busnes i Ogledd Iwerddon.

 BUDDSODDIAD O’R TU ALAN?

Yn ystod y 3 blynedd diwethaf:

  • Bu 227 o achosion o fuddsoddiad o dramor
  • O gyfanswm o 34 o wledydd
  • Gan ddiogelu 27,000 o swyddi yng Nghymru

Mae bod yn aelodau o’r Farchnad Sengl wedi argyhoeddi buddsoddwyr i fuddsoddi yng Nghymru. O ganlyniad i ansicrwydd ynghylch Brexit, mae prosiectau buddsoddi o’r tu allan, sydd yn yr arfaeth, wedi cael eu canslo neu eu gohirio.

 

 

 

A yw Brexit yn werth yr ymdrech?

 

Nac ydy.

Join to stop a damaging Brexit

Ymunwch iwrthodBrexitniweidiol

Thanks for your support! • Diolch am eich cefnogaeth!

Pin It on Pinterest

Shares
Share This