Mae Hon Yn Dudalen Ddwyieithog, Gyda’r Gymraeg Isod. This Is A Bilingual Page; Please Scroll Down For Welsh Text.
Embargoed until 00:01 13 October 2017
More than three-quarters of people in Wales have stated they would not be willing to lose any money at all in order for the UK to leave the European Union.
That is the key finding of a poll commissioned by Wales For Europe and carried out by YouGov. The poll published, today (13 October 2017) shows that 76% of respondents would not be willing to pay a penny to achieve Brexit.
Among respondents who voted Leave in the 2016 referendum, 55% are unwilling to forgo any money (including income, taxes and prices).
Fewer than one in five people would be willing to sacrifice between £10 and £50 a month. And only 6% would be prepared to lose more than £100 a month – all of them Leave voters in June 2016.
People aged between 25 and 49 years are most resistant to shouldering any cost, with 83% unwilling to surrender any money at all, compared with 64% of those aged 65 plus.
Yet the economic repercussions of the Europe referendum last year and now Brexit preparations are already costing Welsh people dearly, with the average family paying £11 a month more in food prices alone than at the start of the year. The fall in the pound meant those longed-for summer holidays abroad soared in price, and consumer spending in general is in decline.
Helen Birtwhistle, Director of Wales For Europe, said: “These results demonstrate that the commitment of Leave voters to Brexit is not deep, and may well be changing as the full economic effects of Brexit become clearer. As the cost of living rises for families in Wales, we are all feeling the pinch. At the same time, the confusion over next steps in the Brexit process, combined with a growing realisation of the EU membership benefits Wales stands to lose, mean that people are reassessing their commitment to Brexit.
“These poll figures warn us that many Welsh people who backed Brexit could feel intensely disillusioned in the coming months as the cost mounts,” she added.
Editor’s notes
- All figures, unless otherwise stated, are from YouGov Plc. Total sample size was 1,043 adults. Fieldwork was undertaken between 12th – 15th September 2017. The survey was carried out online. The figures have been weighted and are representative of all Welsh adults (aged 18+).
- Wales For Europe is an independent grassroots campaigning organisation made up of volunteers in local groups across the nation. We bring Welsh voices together to fight for the best deal for Wales and believe that Wales is stronger with Europe.
- Join us at the Wales Rally For Europe on Saturday 14 October, at the Aneurin Bevan Statue, Queen Street, Cardiff to show the strength of support in Wales for the EU #ThankYouEurope #DiolchEwrop
For further media information and for interviews, please contact:
Helen Birtwhistle, Director, Wales for Europe
END
Gwaharddiad tan 00:01 13 Hyrdref 2017
Mae dros dri chwarter pobl Cymru wedi datgan na fyddent yn barod i golli unrhyw arian o gwbl er mwyn i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae hwn yn ganfyddiad allweddol mewn pôl a gomisiynwyd gan Gymru dros Ewrop a gynhaliwyd gan YouGov. Mae’r pôl, a gyhoeddwyd heddiw (13 Hydref 2017) yn dangos na fyddai 76% o’r ymatebwyr yn barod i dalu ceiniog i gyflawni Brexit.
Ymysg yr ymatebwyr a bleidleisiodd Gadael yn refferendwm 2016, mae 55% yn amharod i ildio unrhyw arian (yn cynnwys incwm, trethi a phrisiau).
Byddai llai nag un mewn pump o bobl yn barod i aberthu rhwng £10 a £50 y mis. A dim ond 6% fyddai’n barod i golli mwy na £100 y mis – i gyd yn bleidleiswyr Gadael ym Mehefin 2016.
Y bobl hynny rhwng 25 a 49 oed sydd fwyaf yn erbyn ysgwyddo unrhyw gost, gydag 83% yn amharod i ildio unrhyw arian o gwbl, o’i gymharu â 64% o’r rheiny sydd yn 65 oed ac yn hŷn.
Ond eto, mae sgil-effeithiau economaidd refferendwm Ewrop y llynedd a nawr paratoadau Brexit eisoes yn costio’n ddrud i bobl Cymru, gyda theulu cyffredin yn talu £11 y mis yn fwy am fwyd nag ar ddechrau’r flwyddyn. Mae’r cwymp yn y bunt yn golygu bod y gwyliau haf gwerthfawr hynny wedi cynyddu’n sylweddol, ac mae gwariant defnyddwyr yn gyffredinol yn dirywio.
Dywedodd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr Cymru dros Ewrop: “Mae’r canlyniadau hyn yn dangos nad yw ymrwymiad pleidleiswyr Gadael yn ddwfn, ac y gallai fod yn newid wrth i effeithiau economaidd llawn Brexit ddod yn gliriach. Wrth i gostau byw gynyddu i deuluoedd yng Nghymru, rydym i gyd yn teimlo’r effaith. Ar yr un pryd, mae’r dryswch ynghylch camau nesaf proses Brexit, ynghyd â sylweddoliad cynyddol o’r buddion y bydd Cymru’n eu colli trwy beidio bod yn aelod o’r UE, yn golygu bod pobl yn ailasesu eu hymrwymiad i Brexit.
“Mae ffigurau’r pôl hwn yn ein rhybuddio y gallai llawer o bobl Cymru a gefnogodd Brexit deimlo dadrithiad mawr yn y misoedd i ddod wrth i’r costau gynyddu,” ychwanegodd.
Nodiadau i olygyddion
- Mae’r holl ffigurau, oni nodir fel arall, o YouGov Plc. Cyfanswm y sampl oedd 1,043 o oedolion. Gwnaed gwaith maes rhwng 12 – 15 Medi 2017. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigurau wedi cael eu pwysoli ac maent yn cynrychioli holl oedolion Cymru (18+ oed).
- Mae Cymru dros Ewrop yn sefydliad ymgyrchu llawr gwlad, annibynnol sydd yn cynnwys gwirfoddolwyr mewn grwpiau lleol ar draws y wlad. Rydym yn dod â lleisiau Cymru ynghyd i frwydro dros y fargen orau i Gymru ac yn credu bod Cymru’n gryfach yn Ewrop.
- Ymunwch â ni yn Rali Cymru dros Ewrop ar ddydd Sadwrn 14 Hydref, gerllaw Cerfddelw Aneurin Bevan, Stryd y Frenhines, Caerdydd i ddangos cryfder y gefnogaeth yng Nghymru dros yr UE #DiolchEwrop
Am fwy o wybodaeth ar gyfer y cyfryngau a chyfweliadau, cysylltwch â:
Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr, Cymru Dros Ewrop
DIWEDD