Mae Cymru dros Ewrop yn gresynu’n fawr bod Llywodraeth y DU yn rhoi ideoleg o flaen y budd cenedlaethol ac iechyd y wlad wrth wrthod ceisio estyniad i’r cyfnod trosglwyddo wrth inni frwydro yn erbyn argyfwng Covid-19.
Rydym yn galw ar y llywodraeth i ailystyried cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin. Dyma’r unig gamau cyfrifol i unrhyw lywodraeth yn y DU eu cymryd yng ngoleuni argyfwng Covid-19.
Rydym hefyd yn galw ar bobl Cymru sy’n poeni am eu dyfodol – o wleidyddion i bensiynwyr, myfyrwyr i berchnogion busnesau bach, ffermwyr i deuluoedd – i godi llais yn erbyn bargen frysiog nad yw er ein budd cymdeithasol nac economaidd.
Ni all y DU, a Chymru yn benodol, fforddio gadael yr UE heb fargen glir wedi’i chynllunio’n dda sy’n ystyried pob rhan o’r DU. Nawr ein bod yn wynebu difrod ac ansicrwydd coronafirws, gallwn ei fforddio hyd yn oed yn llai.
Byddai ymestyn y cyfnod trosglwyddo i ganiatáu amser i’r UE a’r DU flaenoriaethu’r frwydr yn erbyn coronafirws ac sy’n ymwneud â bywyd a marwolaeth, yn ffordd gywir i unrhyw lywodraeth gyfrifol.
Mae Prif Weinidogion Cymru a’r Alban, Mark Drakeford a Nicola Sturgeon, mewn llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog ar 12fed Mehefin wedi nodi, y byddai “gadael y cyfnod trosglwyddo ar ddiwedd y flwyddyn yn hynod ddi-hid” o dan yr amgylchiadau presennol .
Rydym yn cytuno. Mae gormod yn y fantol. Mae’n annerbyniol y dylai Llywodraeth y DU fod wedi gwrthod eu cais allan o law.
Gallai llywodraeth Boris Johnson ddewis ennill mwy o amser. Gallai ddewis gwneud yn well ar ran trigolion y DU. Mae’n gwrthod gwneud hynny.
Byddai gadael yr UE heb fargen yn drychinebus. Ond nid yw osgoi ‘dim bargen’ yn ddigon da. Nid yw bargen nad yw’n amddiffyn bywydau a bywoliaeth pobl Cymru yn ddigon da.
Nid yw bargen heb fanylder sy’n caniatáu erydiad ein diogelwch, hawliau a safonau dros amser yn ddigon da.
Nid yw bargen sy’n pentyrru caledi pellach ar ben y dioddefaint a achosir gan argyfwng Covid yn ddigon da.
Hyd yn oed os na ellir osgoi Brexit, mae yna ddewisiadau i’w gwneud o hyd, llawer i ymladd drosto o hyd yn ei ffurf derfynol. Mae angen amser arnom i’w gael mor gywir ag y gall fod.