To read this page in English, click/tap here.
Heddiw (Ddydd Sadwrn 18fed Mai 2019), bydd ymgyrchwyr ar draws y wlad yn mynd i’n traethau i ddechrau ein hymgyrch hâf, lle byddwn yn dathlu’r cyfraniadau i Gymru yn sgil ein lle yn Ewrop. Yn benodol, y cynnydd sylweddol a wnaed yn glanhau ein traethau a’n dyfroedd ymdrochi.
Mae Cymru Dros Ewrop eisoes wedi comisiynu artist traethau Sir Benfro, Marc Traenor, i greu teyrnged i’r ymgyrch ar yr eiconig, Draeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod, sydd eisoes wedi cael cryn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd ymgyrchwyr yn ymgynnull ar y promenâd ger y traeth yn Abertawe i ddathlu Ewrop trwy gelfyddyd traeth, canu a llefarwyr, cyn symud ymlaen i far Gwesty’r Marriott.
Bydd ymgyrchwyr hefyd yng Nglan-yr-afon yng Nghasnewydd gyda’r llefarwr gwadd arbennig, Dr Stephen Marsh-Smith OBE. Mae Dr Marsh-Smith yn amgylcheddwr ac yn brif swyddog gweithredol Afonydd Cymru – y corff sy’n cynrychioli chwe ymddiriedolaeth afonydd Cymru.
Yn y 1970au a’r 1980au, cyfeiriodd grwpiau amgylcheddol ac eraill yn aml at y DU fel “dyn budr Ewrop”, yn rhannol oherwydd cyflwr llygredig ei thraethau. Ers hynny, mae gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud, ac yn 2016, cafodd dros 95% o ddyfroedd ymdrochi’r DU (609 o’r 631 o safleoedd) eu nodi’n ddigonol o leiaf neu o ansawdd gwell o ran safonau’r UE.
Yng Nghymru, cafwyd mwy o lwyddiant ac yn 2017, bodlonodd 101 o’n 102 o draethau brofion amgylcheddol Ewropeaidd llym, cynnydd o 315% o’i gymharu â 1990!
Mae’r gwelliant hwn yn sgil aelodaeth y DU o’r UE a’r gofynion a’r safonau llym a gyflwynwyd i gyfraith y DU er mwyn cydymffurfio â gofynion Cyfarwyddebau Dŵr Ymdrochi a Gwastraff Trefol yr UE.
Mae Ewrop wedi amddiffyn ein hafonydd hefyd; mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn datgan na all dirywiad mewn ansawdd dŵr ddigwydd. Dim ond y llynedd, defnyddiodd Afonydd Cymru y ddeddfwriaeth Ewropeaidd bwysig hon i gwyno’n ffurfiol am Lywodraeth Cymru’n methu rheoli llygredd amaethyddol yn iawn.
Dywedodd Paul Willner, cadeirydd Abertawe dros Ewrop, “Mae traethau Abertawe’n lanach ac yn fwy diogel nag erioed – ac mae’r diolch am hynny i Ewrop. Cyfraith Ewropeaidd wnaeth i San Steffan unioni pethau.
Mae gan draethau oedd wedi eu llygru â charthion crai ugain mlynedd yn ôl bellach faneri glas.
Mae’n enghraifft wych o’r ffordd y mae’r UE yn rhoi buddion gwirioneddol i Abertawe a’i phobl.”
Dywedodd cyfarwyddwr Cymru Dros Ewrop, Peter Frederick Gilbey, “Trwy gyfreithiau, pwysau parhaus a’r bygythiad o ddirwyon, mae’r UE wedi bod yn flaenllaw yn ysgogi llywodraeth San Steffan a llywodraeth Cymru i weithredu. Daw 80% o’n cyfreithiau amgylcheddol o’r UE ac mae ein traethau, bywyd gwyllt a’r boblogaeth ddynol yn iachach o herwydd hynny.”
/diwedd
Lluniau
Celfyddyd traeth a gomisiynwyd gan Gymru dros Ewrop ar Draeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro. Artist: Marc Traenor.
Nodiadau i Olygyddion
Ar gyfer pob cais ac ymholiadau’r cyfryngau, cysylltwch â:
Peter Frederick Gilbey, Cyfarwyddwr, Cymru Dros Ewrop
peter@walesforeurope.org