(GOLYGU: Rhifau coetsis wedi newid ers cyhoeddiad gwreiddiol)
Bydd miloedd o ymgyrchwyr ledled Cymru yn teithio i Lundain ar ddydd Sadwrn, 23ain o Fawrth, i ymuno â phrotest fawr i fynnu Pleidlais y Bobl ar Brexit.
Disgwylir i gannoedd o filoedd o bobl o bob cwr o’r DU i gymryd rhan yng ngorymdaith “Gofynnwch I’r Bobl Nawr”, wedi’i drefnu gan Pleidlais y Bobl yng nghanol Llundain. Fis Hydref diwethaf gorymdeithiodd dros 700,000 o bobl trwy ganol Llundain i fynnu Pleidlais y Bobl ar Brexit.
Mae 23 o goetsis o Gymru yn wedi’u llanw yn barod, – naw mwy nag adeg gorymdaith mis Hydref diwethaf – ac mae’n bosib bydd mwy erbyn diwedd yr wythnos.
Bydd pobl yn teithio i Lundain o bob rhan o Gymru, gogledd a de, ac o bob rhan o’r DU, yn cynnwys pob rhanbarth o Loegr, Ucheldir yr Alban ac hyd yn oed o Gibraltar.
Bydd cefnogwyr eraill yn teithio ar y tren neu mewn ceir. Mae nifer fawr o ddinasyddion y DU sy’n byw dramor hefyd yn bwriadu teithio i Lundain i gymryd rhan yn yr orymdaith. Bydd rhai yn teithio o Awstralia, yr Unol Daleithiau, Malaysia, a’r Affrig, yn ogystal a channoedd o wledydd yr UE.
Bydd gorymdeithwyr o Gymru yn cwrdd ger Bandstand Hyde Park am 11 o’r gloch ar Fawrth 23, cyn ymuno a gweddill yr orymdaith am haner dydd – ‘Yr Awr Dyngedfennol’’ – ar Park Lane. Bydd yr orymdaith wedyn yn symud tuag at Sgwâr y Senedd ar gyfer rali fawr a phrif areithiau.
Dywedodd Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Cymru dros Ewrop: “Rydym wedi gweld ymateb syfrdanol yn barod i’r orymdaith hon, gyda cynnydd sylweddol yn y nifer o goetsis roedd rhaid i ni archebu, o’i gymharu a mis Hydref diwethaf. Mae hyn y arwydd clir bod cefnogaeth i’n haelodaeth o’r UE wedi cynyddu’n sylweddol.
“Gyda pharhad diffyg arweiniad yn San Steffan, bydd gorymdaith ‘Gofynnwch i’r Bobl Nawr’ yn gyfle arbennig i fynnu llais democrataidd ar y llanast hwn, cyn ei fod yn rhy hwyr. Dyma’r Awr Dyngedfennol.
“Mae’n go debyg bydd y Prif Weinidog yn gorfod gofyn am estyniad i gyfnod Erthygl 50 tu hwnt i 29 o Fawrth, felly bydd yr orymdaith hon yn ddechreuad ar gyfnod newydd yn ein hymgyrch.
“Mae croeso i bawb ymuno gyda ni – unrhyw un sydd yn poeni am y dyfodol, unrhyw un sydd wedi eu siomi gan yr addewidion a wnaed yn y refferendwm diwethaf, ac sy’n medru gweld y bygythiad i economi Cymru, ein gwasanaeth iechyd, ac i’n cymunedau sydd dan warchau yn barod. Medrwn rhoi stop ar y gwallgofrwydd hyn, unwaith ac am byth,” dwedodd.
Cynhelir y brotest fawr yn Llundain ddiwrnodau cyn bod y DU i fod gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd yr hen ac ifanc o bob cefndir yn gorymdeithio ochr yn ochr trwy ganol Llundain, yn cynnwys teuluoedd yn gwthio bygis, neiniau a theidiau, arddegwyr, myfyrwyr, gweithwyr swyddfa, enwogion ac Aelodau Seneddol.
/diwedd
Nodiadau i Olygyddion
Am geisiadau ac ymholiadau’r cyfryngau am yr ymgyrchwyr lleol sy’n ymuno yn yr orymdaith, cysylltwch â:
Peter Gilbey, Cyfarwyddwr, Cymru dros Ewrop
peter@walesforEurope.org
Geraint Talfan Davies, Cadeirydd, Cymru dros Ewrop
hello@walesforeurope.org
Bydd y goetsis yn codi lan pobl o Gaerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, y Cymoedd Canolog, Penybont, Abertawe, Sir Gâr, Sir Benfro, de Powys, Dwyfor Meirionnydd, Bangor, Sir Ddinbych a Wrecsam.
I archebu lle ar goets, cysylltwch â dudalen digwyddiadau ar ein gwefan: walesforeurope.org/events/?c
Mae mwy o wybodaeth am Gofynnwch I’r Bobl Nawr ar gael yma: peoples-vote.uk/march