3,015 messages sent to MPs

Cynlluniau Brexit yn methu profion Prif Weinidog Cymru

Other reads

Peter Gilbey
To read this post in English, click here.

DATGANIAD I’R WASG
I’w gyhoeddi ar unwaith

 

Mae Llywodraeth y DU wedi  ‘methu’n llwyr â bodloni buddiannau pobl Cymru’, ar ôl cwrdd a dim ond un o’r 10 prawf ar gyfer Brexit a nodwyd gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ym mis Tachwedd 2016 pan oedd yn Weinidog Cyllid Cymru.  

Mae’r honiad wedi ei nodi mewn llythyr agored gan Gymru Dros Ewrop i’r Prif Weinidog, ynghyd ag asesiad o’r sefyllfa bresennol yn erbyn bob un o’r 10 prawf. Mae’n honni mai dim ond un o’r 10 prawf “celfydd” sydd wedi cael eu bodloni, gyda tri wedi eu bodloni’n rhannol, a chwe phrawf wedi methu.

Dywed y gallai “rhai hyd yn oed ystyried bod yr asesiad hwn yn hael i Lywodraeth y DU.”

Yng ngoleuni’r asesiad hwn ac o ystyried yr ‘amgylchiadau peryglus o ansicr presennol i Gymru’, mae’r llythr yn annog y Brif Weinidog i “sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n ymrwymo ar frys ac yn ddigamsyniol i gefnogi refferendwm newydd, i wneud hyn yn glir i drafodwyr y Blaid Lafur, ac i sicrhau cefnogaeth ein Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y trywydd hwn cyn gynted â phosibl.”

Nododd Mark Drakeford y 10 prawf mewn araith ym Mhrifysgol Abertawe mewn cynhadledd wedi’r refferendwm.  Roeddent yn ffurfio sylfaen Papur Gwyn – Diogelu Dyfodol Cymru – a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017. Dywedodd y Papur Gwyn fod “yn rhaid i’r telerau ymadael ddiogelu buddiannau hanfodol Cymru. ”

Mae llythyr Cymru Dros Ewrop yn ychwanegu: “Ers hynny mae rhagolygon economaidd pellach ond wedi amlygu difrifoldeb y canlyniadau y gallai Cymru eu hwynebu.”

Mae’n mynd ymlaen: “Hyd yn oed os ceir cytundeb cyfaddawd yn y trafodaethau rhwng Theresa May a Jeremy Corbyn, yn realistig, nid oes unrhyw gytundeb sydd yn cynnig canlyniadau, economaidd a gwleidyddol i Gymru, sydd yn well neu’n agos at fod yn well na’r rheiny sydd ar gael trwy barhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae eisoes yn glir bod Llywodraeth y DU wedi methu’n llwyr â bodloni buddiannau pobl Cymru fel y gwnaethoch chi eu diffinio yn eich anerchiad yn Abertawe – a chadarnhau ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru/Plaid Cymru.

“Does dim amheuaeth bod y sefyllfa hon wedi deillio o gyfuniad o wrthddywediadau cynhenid Brexit, camdrafod enbyd gan Lywodraeth y DU, a methiant i ymgysylltu’n ystyrlon â Llywodraethau Cymru a’r Alban.

“Yn yr achos hwn, credwn fod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wneud y methiannau hyn gan Lywodraeth y DU yn amlwg i’r cyhoedd yng Nghymru ac, o ganlyniad, mynnu pleidlais gyhoeddus newydd lle byddai parhau yn aelod o’r UE yn opsiwn wedi ei nodi.  

Mae’r llythyr hefyd yn mynnu “nad yw etholiad cyffredinol yn ddewis amgen digonol i refferendwm.”

“Nid yw’n ddigon bellach i ddweud bod ‘pleidlais gadarnhaol’ yn dal ar y bwrdd ar gyfer pa bynnag gytundeb sy’n cael ei wthio drwy’r Senedd, nac y gallai fod dewis rhwng etholiad cyffredinol a refferendwm.

“Pa ffordd ymlaen bynnag sy’n cael ei chytuno gan y Senedd, yr unig ffordd i gael barn y cyhoedd o’r newydd, mewn ffordd sydd yn parchu canlyniad refferendwm 2016, a heb ei phardduo gan faterion eraill, yw cynnal Pleidlais y Bobl newydd. Dyma’r unig opsiwn democrataidd teg a dylai fod yn ymrwymiad hanfodol mewn unrhyw faniffesto gan Lafur, p’un ai ar gyfer etholiadau Ewropeaidd neu etholiad cyffredinol.

“Mae penderfyniad y Cyngor Ewropeaidd wythnos diwethaf i ymestyn cyfnod Erthygl 50 hyd at 31 Hydref o leiaf yn golygu bod gennym amser bellach am drafodaeth llai gorffwyll ac i gymeradwyo’r ddeddfwriaeth sydd yn angenrheidiol ar gyfer cynnal refferendwm yn ystod tymor yr hydref eleni,” ychwanega.

Mae’r chwe phrawf sydd heb eu bodloni’n ymwneud â:

  • mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl
  • ymagwedd wedi ei rhagnodi tuag at ryddid pobl i symud
  • gwarant o gyllid parhaus ar ddim llai na lefel flaenorol yr UE
  • cadarnhad cyflym o statws parhaol Gwladolion EU27
  • cyfranogiad llawn Llywodraeth Cymru yn llunio sefyllfa drafod y DU
  • ymrwymiad cyfan gwbl tuag at ailffurfio’r berthynas rhwng cydrannau’r DU

Mae’r tair brawf y bernir eu bod wedi eu bodloni’n rhannol yn ymwneud â:

  • chynnal amddiffyniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd
  • parhad di-dor cymwyseddau datganoledig presennol wrth i’r DU adael yr UE.
  • cyfranogiad ar ôl Brexit mewn rhwydweithiau a phartneriaeth Ewropeaidd allweddol

Mae’r un y bernir eu bod wedi eu bodloni yn ymwneud â:

  • threfniadau pontio

Mae’r asesiadau llawn isod.

DIWEDD

10 prawf Brexit Llywodraeth Cymru a nodwyd gan Mark Drakeford AC,  pan oedd yn Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, ym Mhrifysgol Abertawe, ar 25 Tachwedd 2016

ASESIAD

  1. Mynediad dilyffethair, llawn i’r farchnad sengl, heb ein llwytho gan dariffau, cwotâu neu unrhyw rwystrau technegol i fasnach.

HEB EI FODLONI. Mynediad llawn i’r farchnad sengl a’r undeb tollau heb ei gytuno eto, er gwaethaf cefnogaeth sylweddol i’r undeb tollau yn y Senedd (dim ond tri yn brin o uchafswm yn y bleidlais fynegol ddiwethaf). Nid yw’r Datganiad Gwleidyddol yn gofyn am fynediad i ddiwydiannau gwasanaeth sydd yn cynrychioli 80% o economi’r DU.

  1. Ymagwedd raddedig tuag at rhyddid pobl i symud, sydd yn gwarchod ei fanteision niferus, tra’n rhoi pwysau ar gamfanteisio ar lafur.

HEB EI FODLONI. Mae papur gwyn Llywodraeth y DU ar fewnfudo yn cynnig system fewnfudo sengl yn seiliedig ar sgiliau, ond ar ôl cyfnod pontio, mae’n cynnig gweithredu trothwy cyflog blynyddol o £30,000. Mae hyn yn debygol o arwain at rwystr i fewnfudo ar gyfer swyddi â thâl isel yn y gwasanaeth iechyd a chymdeithasol, gan achosi anawsterau difrifol i’r gwasanaethau hynny.

  1. Cyllid: gwarant llawn y bydd cyllid sydd yn llifo o’r UE heddiw, ac y byddai’n parhau i lifo yn y dyfodol, yn cael ei ddarparu ar neu uwchlaw’r lefel honno gan Drysorlys y DU, unwaith y bydd Brexit wedi digwydd.

HEB EI FODLONI. Er bod ymrwymiadau wedi eu gwneud i anrhydeddu gwobrau cyllid wedi eu gwneud cyn diwedd gyfnod pontio, y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw nid oes unrhyw warant o unrhyw fath y bydd Cymru’n cael yr un lefel o gyllid ag yr ydym yn ei gael heddiw trwy Gronfeydd Rhanbarthol a Chymdeithasol yr UE, y PAC a chyllid ymcil a diwylliant. Yn Etholiad Cyffredinol 2017, cynigiodd maniffesto’r Ceidwadwyr Gronfa Ffyniant Gyffredin. Hyd yn hyn, nid ydym wedi gweld unrhyw fanylion ar faint arfaethedig y gronfa na’r meini prawf ar gyfer ei dosbarthu. Nid ydym chwaith wedi gweld unrhyw fanylion ar ddisodli’r cronfeydd sydd yn deillio o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Bydd cymunedau amaethyddol a gwledig Cymru’n cael eu gadael yn angof niweidiol. Bydd cyllid parhaus ar gyfer ymchwil a chydweithredu’n cael ei bennu mewn trafodaethau ar ôl i ni adael yr UE.

  1. Cynnal amddiffyniadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, sy’n cael eu darparu i Gymru trwy ein aelodaeth o’r UE, yn llawn, yn cynnwys pob amddiffyniad a ddarperir ar gyfer gweithwyr.

WEDI EI FODLONI’N RHANNOL. Er bod ymrwymiad i ‘drin pawb yn yr un modd’ (fel rhan o’r ‘backstop’) sydd yn cynnwys cystadleuaeth deg ym maes safonau amgylcheddol a llafur, nid oes unrhyw ymrwymiad i alinio deinamig y tu hwnt i hynny.

  1. Cadarnhad cyflym o statws parhaol gwladolion yr UE sydd yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd yn y cyfnod ar ôl Brexit.

HEB EI FODLONI. Er bod Llywodraeth y DU bellach wedi nodi proses lle gall Gwladolion yr UE gadarnhau eu statws sefydlog, gall neb ddweud bod y broses wedi bod yn gyflym. Mae statws dinasyddion yr UE, rhai sy’n agored i niwed yn arbennig, yn dal yn beryglus ac yn destun cais llwyddiannus am Statws cyn-Sefydlog neu Sefydlog. Mae sawl rhwystr a allai achosi nifer fawr o bobl i syrthio drwy’r rhwyd, a’u gadael heb eu cofnodi. Bydd statws dinasyddion yr UE yn y DU yn y dyfodol hefyd yn destun deddfwriaeth fewnfudo a gallai gael ei newid ar un ochr gan Lywodraeth y DU. Gallai rhywfaint o hyn fod yn ddeddfwriaeth eilaidd, felly ni fydd angen cymeradwyaeth y Senedd.  Bydd hawliau ailuno yn dod i ben erbyn 2022 ac mae hawl i ddychwelyd yn cael ei gwtogi.

  1. Ffocws newydd ar drefniadau pontio. Ni all fod dibyn i aelodaeth y DU o’r UE.  Mae cymhlethdod trafodaethau Erthygl 50 yn golygu y byddant, yn anochel, yn canolbwyntio ar y ffordd y bydd y DU yn rhyddhau ei hun o’r trefniadau presennol. Bydd yn rhaid datblygu’r berthynas â’r UE a gweddill y byd a chytuno arno dros gyfnod llawer hwy. Trefniadau pontio sydd yn dal mor agos â phosibl i’r sefyllfa bresennol fydd yn darparu’r llwyfan mwyaf sefydlog ar gyfer trafodaethau i’r dyfodol.

WEDI EI FODLONI. Cytunwyd ar gyfnod pontio fel rhan o’r broses, ond bydd ond yn dod i rym os bydd y DU yn gadael yr UE gyda chytundeb. Wedi dweud hynny, mae’n anodd dod o hyd i unrhyw sylwebwyr gwybodus sydd yn credu gall y trafodaethau ddod i ben o fewn cyfnod o ddwy flynedd yn unig.

  1. Cyfranogiad llawn yn llunio sefyllfa drafod y DU a chyfranogiad uniongyrchol yn y trafodaethau hynny sydd yn cynnwys meysydd cyfrifoldeb wedi eu datganoli, gan ddefnyddio model cyfranogiad y gweinyddiaethau datganoledig yn y Cyngor Gweinidogion.

HEB EI FODLONI. Er bod Llywodraethau Cymru a’r Alban wedi mynychu llawer o gyfarfodydd gyda gweinidogion Llywodraeth y DU, roedd yn rhaid i Lywodraethau Cymru a’r Alban, ar sawl achlysur, fynegi eu hanfodlonrwydd mawr tuag at y diffyg ymgynghori. Mae hyn wedi bod yn arbennig o amlwg yng nghyfnodau mwyaf diweddar y trafodaethau. Yn aml, mae hyn wedi bod mewn gwrthgyferbyniad llwyr i gyfranogiad DUP Gogledd Iwerddon.

  1. Cydnabyddiaeth eglur o barhad di-dor cymwyseddau datganoledig presennol wrth i’r DU adael yr UE: mae’n rhaid i gymwyseddau datganoledig sy’n cael eu rheoleiddio ar hyn o bryd ar lefel yr UE barhau i gael eu cyflawni gan y gweinyddiaethau datganoledig, pan na fyddwn bellach yn aelodau o’r UE: mae’n rhaid i unrhyw fframweithiau newydd y DU gael eu trafod yn rhydd rhwng y pedair Llywodraeth.

WEDI EI FODLONI RHANNOL. Mae hwn wedi ei fodloni am fod Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU y dylid trosglwyddo pwerau’r UE yn ymwneud â meysydd cymhwysedd datganoledig i Gaerdydd. Ond mewn meysydd penodedig, bydd pwerau rhai yn aros yn San Steffan am gyfnod o pum mlynedd. Nid yw’n hysbys eto pa ddylanwad fydd gan lywodraethau datganoledig pan fydd unrhyw fframweithiau angenrheidiol y DU yn cael eu sefydlu.  

  1. Ymrwymiad cyfan gwbl i ailffurfio’r berthynas rhwng cydrannau’r Deyrnas Unedig, yn y cyfnod ar ôl yr Undeb Ewropeaidd, yn cynnwys dosbarthu cyfrifoldebau a pheirianwaith y llywodraeth rhwng y pedair gwlad.

HEB EI FODLONI. Er y bu trafodaeth sut bydd Llywodraeth DU trafod ar ‘gytundebau fframwaith’, ni chafwyd unrhyw drafodaeth neu ymrwymiad i ‘ail-lunio’r berthynas gwahanol gydrannau o’r Deyrnas Unedig’ mewn termau cyffredinol.

  1. Efallai fod Cymru yn gadael yr UE, ond nid ydym yn gadael Ewrop.  Mae angen clir, ar frys, i sicrhau Parhad ein cyfranogiad yn rhwydweithiau a phartneriaethau Ewropeaidd allweddol.

WEDI EI FODLONI’N RHANNOL. Ceir dau fater yma. I ddechrau, cyfranogiad mewn rhwydweithiau a phartneriaethau presennol sydd yn dibynnu ar gyllid yr UE – e.e. Horizon 2020, Erasmus, Ewrop Greadigol. Nid yw ein cyfranogiad parhaus yn y cynlluniau hyn wedi cael ei gytuno.  Byddai trafodaeth yn cael ei threfnu ar ôl i ni adael yr UE yn unol â’r prosesau a amlinellir yn y Datganiad Gwleidyddol. Yn ail, mae hyn hefyd yn cyfeirio at rwydweithiau y byddai angen i Gymru eu cynnal fel rhan o strategaeth Ewropeaidd/ryngwladol barhaus ar gyfer Cymru os bydd Brexit yn digwydd. Rydym yn gwerthfawrogi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd tuag at strategaeth ryngwladol fwy cadarn.

Cysylltiadau

Peter Frederick Gilbey, Cyfarwyddwr, WFE
peter@walesforeurope.org

Geraint Talfan Davies, Cadeirydd, WFE
hello@walesforeurope.org