3,015 messages sent to MPs

Dyfodol Cymru yn Ewrop: Agenda ar gyfer 2021-2026

Other reads

walesforeurope

Galwad ar ymgeiswyr a phleidiau gan Cymru dros Ewrop

Mae’r DU wedi gadael yr UE, ond mae llawer i’w wneud i adeiladu a siapio ein perthynas ag Ewrop, a chyda gweddill y byd. Bydd y ffurf y bydd y berthynas hon yn ei chymryd dros y pum mlynedd nesaf yn cael effeithiau hirsefydlog ar economi a diwylliant Cymru yn ogystal â’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl Cymru.

Er y bydd polisïau a gweithredoedd Llywodraeth y DU yn siapio llawer o feysydd, rhaid i Gymru gymryd pob cam posibl i lunio ei pherthynas ei hun ag Ewrop. Mae llawer sy’n dal i fod o fewn grym a dylanwad y Senedd nesaf.

Yn ychwanegol at y gwaith y mae angen ei wneud trwy gydol tymor nesaf y Senedd, bydd disgwyl i Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE-DU gael ei adolygu yn 2025. Rhaid i’r Senedd nesaf ystyried ffyrdd y gallai Cymru elwa o’r broses honno, gan ystyried yr effeithiau   ar Gymru, y DU a’r UE, a dadlau’r achos dros newid a gwella.

Rhaid i’r Senedd nesaf wrthsefyll unrhyw ymgais i ffrwyno a chulhau ei golwg fyd-eang. Rhaid iddi fod yn Senedd  gyda gweledigaeth ryngwladol. Rhaid iddi geisio lliniaru effeithiau gwaethaf Brexit, wrth adeiladu cyfleoedd cadarnhaol ar gyfer cydweithredu ag Ewrop – a thu hwnt.

Felly, rydym yn galw ar y pleidiau gwleidyddol yn y Senedd nesaf i:

  1. Ymladd i sicrhau bod Cymru’n derbyn ‘ddim ceiniog yn llai’  mewn termau real na’r £ 375m a dderbyniodd yn flynyddol yng nghyllid yr UE gan Lywodraeth San Steffan, fel yr addawyd yn 2016.
  1. Sicrhau bod gweithrediad y Gronfa Ffyniant a Rennir arfaethedig yng Nghymru yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru a’i wario yn unol â blaenoriaethau Cymru.
  1. Amddiffyn defnyddwyr a chynhyrchwyr Cymru, gan gynnwys ei ffermwyr, trwy wrthod gosod safonau israddol mewn bwyd, amaethyddiaeth a’r amgylchedd.
  1. Gefnogi busnesau a diwydiannau Cymru trwy wneud popeth yn eu gallu
  •  i leihau effaith rhwystrau di-dariff ar fasnach
  •  i amddiffyn busnes rhag costau uwch a gweinyddiaeth llafurus
  1. Sicrhau mynediad parhaus i’n holl bobl ifanc, waeth beth fo’u cefndir neu eu cyrhaeddiad addysgol, i brofiadau diwylliannol ac addysgol sy’n newid bywyd trwy bob elfen o raglen Erasmus + gan gynnwys addysg uwch, gwaith ieuenctid a chyfleoedd galwedigaethol; rhaid i hyn hefyd gynnwys cyfnewid dwy ffordd, gyda phresenoldeb pobl ifanc o wledydd eraill yn cyfoethogi ein hamgylcheddau a’n cymunedau addysgol ein hunain.
  1. Warantu ymgysylltiad rhyngwladol parhaus ein sector diwylliannol creadigol
  • trwy lobïo llywodraeth y DU i sicrhau teithio heb fisa ar draws yr UE i’n cerddorion, perfformwyr, artistiaid a phobl chwaraeon – ac i’r gwrthwyneb
  • trwy sicrhau mynediad parhaus i’r rhaglen Ewrop Greadigol
  • trwy gynnal cefnogaeth ariannol gref i ‘Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru”
  1. Weithredu ar frys i osgoi cywilydd ‘ail Windrush’
  • trwy gefnogi holl ddinasyddion yr UE sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddynt  i gyflawni Statws Setledig erbyn 30 Mehefin 2021
  • trwy lobïo llywodraeth y DU i sicrhau bod  y dinasyddion bregus sy’n colli’r dyddiad cau hwn yn derbyn estyniadau a chefnogaeth resymol
  • trwy lobïo llywodraeth y DU i ddarparu prawf statws “materol” yn ogystal â digidol i gael gwared ar  unryw rwystrau i ddinasyddion yr UE wrth iddynt brofi eu statws neu gyrchu’r hawliau a’r gefnogaeth y mae ganddynt hawl iddynt.
  1. Geisio ymgysylltiad gweithredol â chenhedloedd a rhanbarthau’r UE i greu cyfleoedd i bobl Cymru ym mhob agwedd o fywyd, o fasnach ac addysg, i ddiwylliant, ymchwil, gwyddoniaeth a thechnoleg.
  1. Adolygu’n gyson sut mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithrediad yn gweithio’n ymarferol a nodi ffyrdd y gellir gwella ein perthynas â’r UE yn ystod adolygiad 2025, ac ar gyfleoedd cyn y dyddiad hwnnw.

Ynglŷn â Chymru dros Ewrop:

Mae Cymru dros Ewrop yn sefydliad llawr gwlad cydweithredol annibynnol, trawsbleidiol ac amhleidiol gyda changhennau ledled Cymru.

Credwn fod Cymru a’r DU yn annatod Ewropeaidd yn rhinwedd daearyddiaeth,  a’r hanes, diwylliant, masnach a gwerthoedd a rennir.

Credwn fod cydweithredu agos parhaus â’r Undeb Ewropeaidd, ei aelod-wladwriaethau a sefydliadau Ewropeaidd eraill er budd ffyniant parhaus y cyfandir cyfan.

Ein amcanion hollgyffredinol yw:

– Hyrwyddo cydweithrediad agos rhwng Cymru, a’r Deyrnas Unedig, a’r Undeb Ewropeaidd a’u dinasyddion ym mhob rhan o fywyd er mwyn hyrwyddo heddwch, ffyniant a chyfeillgarwch yn Ewrop a mynd i’r afael â heriau a chyfleoedd a rennir;

– Hyrwyddo a chefnogi hawliau dinasyddion yr UE sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru a’r DU.

Dyfodol Cymru yn Ewrop 2021