3,015 messages sent to MPs

Cymru dros Ewrop – Recriwtio Cadeirydd

Other reads

walesforeurope

Manylion am Gymru dros Ewrop

Mae Cymru dros Ewrop yn sefydliad llawr gwlad cydweithredol, annibynnol, trawsbleidiol ac amhleidiol. Rydym yn ymgyrchu i gynnal perthynas agos ag Ewrop ym mhob agwedd ar fywyd, ac i hyrwyddo cyfeillgarwch a chydweithrediad rhwng Cymru a’n cymdogion Ewropeaidd.

Ein nodau yw:

  • – Hyrwyddo cydweithrediad agos rhwng Cymru a’r Undeb Ewropeaidd a’u dinasyddion ym mhob rhan o fywyd er mwyn hyrwyddo heddwch, ffyniant a chyfeillgarwch yn Ewrop a mynd i’r afael â heriau a chyfleoedd sy’n gyffredin i ni;
  • – Hyrwyddo a chefnogi hawliau dinasyddion yr UE sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru a’r DU.

Ers 2016, mae rhwydwaith o grwpiau o ymgyrchwyr llawr gwlad lleol wedi datblygu ledled Cymru fel rhan o fudiad Cymru dros Ewrop. Y grwpiau lleol hyn yw enaid ein gweithgareddau a’n hymgyrch.

Mae hwn yn gyfnod allweddol i’n mudiad wrth i ganlyniadau Brexit ddod yn fwyfwy amlwg. Mae llawer o waith wedi’i wneud i gryfhau ein sefydliad dros y 18 mis diwethaf, gan gynnwys ffurfioli ein perthynas â’r Mudiad Ewropeaidd  (The European Movement) ledled y DU.

Byddwn yn penodi Cadeirydd newydd yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd 2021 ac yn chwilio am unigolyn deinamig i’n harwain yng ngham pwysig nesaf ein gwaith.

Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod y rôl, cysylltwch ag elections@walesforeurope.org.

I fynegi eich diddordeb yn y rôl hon, anfonwch ddatganiad byr yn amlinellu eich profiad perthnasol, eich cymhelliant ac unrhyw wybodaeth arall y teimlwch y byddai’n ddefnyddiol i’r panel ei wybod.

Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: Dydd Llun 11eg Hydref

Digwyddiad Hustings: Dydd Llun Hydref 18fed

DS Rhaid i bob enwebiad gael ei gefnogi gan chwech o Gefnogwyr Cymru dros Ewrop. Arweinwyr Canghennau a Chyfarwyddwyr  Cymru dros Ewrop  fydd yn penderfynu’n derfynol ar y penodiad.

 

Disgrifiad o’r rôl a manylion am y person

Y rôl:

– Darparu arweinyddiaeth ac arweiniad effeithiol i’r achos Ewropeaidd yng Nghymru, mewn ffordd a fydd yn cynyddu ei effaith a’i aelodaeth

– Arwain a sicrhau bod gweledigaeth y sefydliad bob amser yn bellgyrhaeddol ac yn berthnasol, ac yn ysbrydoliaeth i’w aelodau a’i changhennau a’r gymuned ehangach

– Cadeirio Bwrdd Cyfarwyddwyr Cymru dros Ewrop

– Cynrychioli Cymru o fewn y mudiad ymgyrchu pro-Ewropeaidd ledled y DU

– Cynrychioli barn y sefydliad wrth ddelio â’r cyfryngau, y llywodraeth, busnes a chymdeithas sifil mewn dull trawsbleidiol

 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar:

– Wybodaeth am y prif faterion sy’n ymwneud â pherthynas y DU â’r UE a bydd yn gyfarwydd â hwy, yn enwedig pan fônt yn berthnasol i Gymru

–  Gynefindra â dirwedd gwleidyddol Cymru a’r gallu i weithio’n agos gydag eraill mewn dull drawsbleidiol

– Sgiliau cyfathrebu cryf a’r gallu i ymgysylltu o fewn a thu hwnt i’r mudiad

– Y gallu i adeiladu clymblaid a rhwydweithiau cefnogol

– Yr awydd a’r gallu i arwain a chymell mudiad gwirfoddol

 

Cysylltwch ag elections@walesforeurope.org i drafod y rôl ac i gael unrhyw wybodaeth bellach.

Mae Cymru dros Ewrop yn Gwmni cyfyngedig trwy warant, rhif 12615465

www.walesforeurope.org

@walesforeurope