Amser ar ôl i atal Brexit a sicrhau Pleidlais y Bobl

Ynghylch

Mae Cymru dros Ewrop yn ymgyrch llawr gwlad i gadw aelodaeth lawn o’r Undeb Ewropeaidd i Gymru a’r DU, gyda’r gred bod hynny er budd heddwch a ffyniant yr holl gyfandir. Mae’n annibynnol ar bleidiau gwleidyddol. 

Yn gyfreithiol, mae Cymru dros Ewrop yn sefydliad partner i Brydain Agored, sydd bellach yn gweithredu o dan faner Pleidlais y Bobl.  O fewn y bartneriaeth agos hon, mae Cymru dros Ewrop yn hunanlywodraethol, yn cael ei arwain gan ei Bwyllgor Gweithredol ei hun. Caiff ei gefnogi gan grwpiau lleol sydd yn cynnwys pob rhan o Gymru.   

DATGANIAD CENHADAETH

Mae perthynas economaidd, gymdeithasol a gwleidyddol y DU â gweddill Ewrop – er mor ddwfn a dryslyd y mae’r berthynas wedi mynd dros fwy na phedwar degawd – yn hanfodol bwysig ac yn ffynhonnell cryfder yn y byd ansefydlog hwn. 

Mewn oes o bwerau cyfandirol cryf, nid yw er budd y DU na Chymru ein bod yn sefyll ar wahân i un o’r blociau economaidd mwyaf llwyddiannus a phwerus yn y byd.

Credwn fod y bleidlais i adael yr UE yn 2016 i raddau helaeth, yn arbennig yma yng Nghymru, yn ymateb i effeithiau economaidd cwymp ariannol 2007-8 yn ogystal â dirywiad gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i hynny. Mae angen i ni wrthdroi’r effeithiau hyn, er lles ein cymunedau i gyd.  

Mae’r tair blynedd diwethaf o drafod, yn ein barn ni, wedi dangos y tu hwnt i bob amheuaeth bod gadael yr UE yn bygwth llawer o fuddiannau sy’n hanfodol i Gymru a’r DU, i ddinasyddion unigol, i’n cymdeithas a’n diogelwch, yn ogystal â buddiannau Ewrop yn gyffredinol.  Nid oes unrhyw opsiwn arall wedi dangos ei fod yn cynnig mantais gyffredinol dros ein haelodaeth lawn bresennol o’r UE.  

Bydd Cymru dros Ewrop, felly, yn ymgyrchu dros refferendwm newydd lle gall pobl ystyried eto y mater o’n haelodaeth o’r UE, nawr ein bod yn gwybod llawer yn well beth sy’n bosibl a beth nad yw’n bosibl, a beth allai’r canlyniadau fod. Yn y Bleidlais y Bobl hynny byddwn yn ymgyrchu dros aros yn aelod llawn o’r UE.

Byddwn yn ymgyrchu’n onest ac yn gywir i aros yn Ewrop, nid dros y sefyllfa fel y mae hi yn unig, ond hefyd i leihau anghydraddoldebau rhanbarthol sydd wedi niweidio’r DU mor hir, ac i adnewyddu polisïau a phrosesau yr Undeb Ewropeaidd. 

Credwn y dylai’r DU aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd am 10 rheswm grymus: 

  1. I ddiogelu a datblygu economi Cymru a’r DU trwy gadw ein haelodaeth o farchnad sengl Ewrop a’r undeb tollau – ein marchnad sengl fwyaf.
  2. I barhau i fanteisio ar raglenni datblygol niferus yr UE sydd wedi rhoi cymorth hanfodol i fusnesau, amaethyddiaeth, prifysgolion a chymunedau Cymru. 
  3. I helpu i greu gwlad gytbwys gyda chyfrannau teg i bob cenedl a rhanbarth, a systemau lles trugarog heb amgylchedd gelyniaethus.
  4. I ddiogelu ein hamgylchedd naturiol a’n hinsawdd trwy gymryd rhan lawn mewn amddiffyniadau a safonau ar draws y cyfandir a ddatblygwyd dros ddegawdau o aelodaeth o’r UE.
  5. I barhau i werthfawrogi doniau a sgiliau y mae gweithwyr o wledydd eraill yr UE yn eu cyflwyno i wasanaethau cyhoeddus fel y GIG.
  6. I ddiogelu urddas a chydraddoldeb yn ein cymdeithas trwy fanteisio’n llawn ar hawliau cyflogaeth a gwrth-wahaniaethu datblygol yr UE. 
  7. I ddiogelu hawliau dynol a rhyddid sylfaenol trwy lynu’n barhaus at Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop. 
  8. I ddiogelu ein diogelwch cenedlaethol trwy gydweithredu’n agos ar draws y cyfandir yn erbyn pob bygythiad mewnol a rhyngwladol. 
  9. I ddiogelu sefydlogrwydd cyfansoddiadol y DU, gan barchu hawliau a buddiannau pob Senedd ddatganoledig.
  10. I chwarae rhan lawn, greadigol ac adeiladol yn natblygiad ein cyfandir – ei sefydliadau a’i economi, ei gymdeithas a’i ddiwylliant – fel rhan hanfodol o’n cenhadaeth genedlaethol.