Want to do more? Tell your MP this is #NotMyBrexit
MPs have the power to stop a bad or ‘no deal’ Brexit this autumn — it’s up to you to make sure they do. Send a message to your local MP to tell them this is #NotMyBrexit.
Yn yr Etholiad Cyffredinol yma, Brexit fydd y mater diffiniol ar gyfer y wlad hon. Mae gennym ni gyfle hanesyddol i ethol llywodraeth bydd yn rhoi’r cyfle am bleidlais newydd i’r bobl ble medrwn ni gael dweud ein dweud. Bydd hwn ond yn cael ei gyflawni drwy bleidleisio’n graff ac yn dactegol a drwy ymgyrchu.
Does gan Cymru dros Ewrop ddim tadogaeth bleidiol. Dydyn ni ddim yn cefnogi pleidiau, yn hytrach gwnawn ni gefnogi ymgeiswyr bydd yn rhoi cyfle ffres i benderfynu pe gadael yr UE neu aros. Bydd Cymru Dros Ewrop yn bwriadu rhoi gwybodaeth lawn i bleidleiswyr Cymreig fel bo’ angen ynglŷn â’u pleidlais. Byddwn yn diweddaru’r wybodaeth yma ble mae angen drwy gydol y cyfnod etholiadol.
Mae gan Gymru 40 etholaeth. Yn yr Etholiad yn 2017, fe etholwyd 8 o ASau o’r Blaid Dorïaidd, 4 o Blaid Cymru a 28 o’r Blaid Lafur. Yn yr isetholiad yn 2019 ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed fe enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol sedd oddi wrth y Torïaid.
O’r 7 sedd Ceidwadol yng Nghymru mae gan 5 ohonynt fwyafrif o llai na 9%. Mae Pleidlais y bobl wedi cynwwys Preseli-Penfro yn ei 100 o seddi targed, ac maent yn annog pleidleisio dros Llafur, felly gwneir Best for Britain hefyd.
Etholaeth | AS presennol | Mwyafrif | Mwy. % | 2017 ail blaid |
Preseli-Penfro | Stephen Crabb | 314 | 0.7 | Labour |
Aberconwy | Guto Bebb* | 635 | 2.0 | Labour |
Bro Morgannwg | Alun Cairns | 2,190 | 4.1 | Labour |
Gor Caerf. & D Sir Benfro | Simon Hart | 3,110 | 7.4 | Labour |
Gor Clwyd | David Jones | 3,437 | 8.5 | Labour |
* Bu Guto Bebb yn un o’r ASau fu golli chwip y blaid. Ni fydd yn sefyll yn yr etholiad hwn.
O’r 28 o seddi Llafur yng Nghymru, mae gan 5 ohonynt fwyafrif o lai na 9%. Mae Pleidlais y Bobl wedi cynnwys pob un ohonynt, heblaw Gogledd Caerdydd, yn ei 10 o seddi targed. Mae Best for Britain wedi argymell pleidleisio dros y blaid Lafur ym mhob un o’r seddi canlynol.
Etholaeth | AS presennol | Mwyafrif | Mwy. % | 2017 ail blaid |
Wrecsam | Ian Lucas* | 1,832 | 5.2 | Con |
Dyffryn Clwyd | Chris Ruane | 2,379 | 6.1 | Con |
Gor Casnewydd | Ruth Jones | 1,951 | 8.3 | Con |
Gwyr | Tonia Antoniazzi | 3,269 | 7.2 | Con |
Gogledd Caerdydd | Anna McMorrin | 4,174 | 8.0 | Con |
* Ni fydd Ian Lucas yn sefyll yn yr etholaid hwn.
Unig sedd y Democratiaid Rhyddrfrydol blw mae’n bosib bydd y Torïaid yn herio yw Brycheiniog a Sir Faesyfed, ennillwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr is-etholaeth 2019. Mae’r sedd yn cael ei gynnwys yn rhestr Pledlais y Bobl o 100 sedd targed. Maent hwy a Best for Britain yn argymell cefnogi yr AS presenol.
Etholaeth | AS presennol | Mwyafrif | Mwy. % | 2017 ail blaid |
Bycheiniog & Sir Faesyfed | Jane Dodds | 1,425 | 4.6 | Con |
Yn y pedwar sedd Plaid Cymru – Arfon, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Ceredigion a Dwyfor Meirionnydd – dim ond yn Nwyfor Meirionnydd fe ddaeth y Blaid Dorïaidd yn ail yn yr etholiad yn 2017. Mae Pleidlais y bobl yn rhestru pob un o’r seddi fel un o’u 100 sedd targed heblaw Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Etholaeth | AS presennol | Mwyafrif | Mwy. % | 2017 ail blaid |
Arfon | Hywel Williams | 92 | 0.3 | Lab |
Dw Caerf. & Dinefwr | Jonathan Edwards | 3,908 | 9.5 | Lab |
Ceredigion | Ben Lake | 104 | 0.3 | LibDem |
Dwyfor Meirionnydd | Liz Saville-Roberts | 4,850 | 16.0 | Con |
Ar y 7fed o Dachwedd fe gyhoeddwyd pact rhwng Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd yn 11 o’r 40 o seddi yng Nghymru. Mae’r democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi cytuno i beidio sefyll, bob un er mwyn y blaid arall, yn 49 o seddi yn Lloegr. Nid yw hwn wedi bod heb ddadl yng Nghymru gan fod oleua dau o’r seddi Llafur wedi’u cipio gan Aelodau Seneddol sy’n angerddol dros Aros yn yr UE, sydd wedi ymddiswyddo o safleoedd wrthblaid ar sail y mater hwn; Jo Stevens yng Nghaerdydd Canolog ac Owen Smith ym Mhontypridd. Ni fydd Owen Smith yn sefyll ond mae Jo Stevens yn un o’r rai sydd wedi arwyddo Addewid Aros Llafur (gweler isod)
Sedd | Plaid presennol | Cynrych. Cyngrair Aros |
Arfon | Plaid Cymru | Plaid Cymru |
Dwyfor Meirionnydd | Plaid Cymru | Plaid Cymru |
Dwy. Caerfyr. & Dinefwr | Plaid Cymru | Plaid Cymru |
Caerffilli | Llafur | Plaid Cymru |
Llanelli | Llafur | Plaid Cymru |
Pontypridd | Llafur | Plaid Cymru |
Ynys Mon | Llafur | Plaid Cymru |
Caerdydd Canolog | Llafur | Democratiaid Rhyddfrydol |
Brycheiniog a Sir Faesyfed | Democratiaid Rhyddfrydol | Democratiaid Rhyddfrydol |
Sir Drefaldwyn | Ceidwadwyr | Democratiaid Rhyddfrydol |
Bro Morgannwg | Ceidwadwyr | Y Blaid Werdd |
We’ve gathered over 100 reasons outlining the potential impact on Wales and the rest of the UK — now it’s over to you. Share your reason with us and add to the growing evidence needed to halt a hard and damaging Brexit in its tracks.
We moderate all submissions before they appear on the site. If your comment is found to breach any of the following rules then we reserve the right not to publish it.
No inappropriate or obscene language, abusive or discriminatory comments.
Don’t post any personal information, whether it’s yours or someone else’s (no addresses or phone numbers).
It will now be reviewed by one of our team before being published on the site.
MPs have the power to stop a bad or ‘no deal’ Brexit this autumn — it’s up to you to make sure they do. Send a message to your local MP to tell them this is #NotMyBrexit.